Ydych chi wedi rhoi cynnig ar nofio dŵr oer? Efallai ei fod yn swnio fel gweithgaredd ar gyfer y bobl fwyaf anturus, ond mewn gwirionedd mae’n weithgaredd y gall pob un ohonom ei wneud ac mae’n cynnig llawer o fuddion.
Mae llawer o'r gweithgareddau yng nghanolfan dŵr gwyn ryngwladol Caerdydd yn cynnwys mynd dan ddŵr oer! O nofio dŵr oer, i roliau esgimo....a hyd yn oed yr adegau pan fyddwch chi'n syrthio i mewn yn annisgwyl! Rydym yn eiriolwyr enfawr dros y pethau gwlyb, drwy gydol y flwyddyn. Felly dyma sut mae ymchwil wedi profi y gall helpu mewn llawer o ffyrdd:
1. Mae'n rhoi hwb i'ch metaboledd
Oeddech chi'n gwybod bod eich braster 'brown' (neu eich meinwe bloneg) yn cael ei actifadu pan fyddwch chi'n mynd dan ddŵr oer, sy'n helpu i gynnal tymheredd eich corff. Byddwch hefyd yn llosgi calorïau, gan gadw'n gynnes.
2. Mae'n lleihau poen
Mae dŵr oer yn culhau eich rhydwelïau ac felly’n lleihau llid posibl ac yn lleddfu cyhyrau dolurus.
3. Mae'n rhoi hwb i'ch system imiwnedd
Mae nofwyr dŵr oer rheolaidd yn canfod bod eu cyrff yn gwella o ran ymladd heintiau ac efallai y byddant yn gweld bod mwy o egni ganddynt o ganlyniad.
4. Mae'n eich cadw'n heini ac yn iach
Mae rhoi eich hun mewn dŵr oer yn gwneud i'ch corff weithio'n galed yn gorfforol ac yn feddyliol.
5. Mae'n clirio eich meddwl a'ch ffocws
Gyda’r gallu i gael gwared â “niwl yn yr ymennydd” trwy’r impylsau trydanol a anfonir i’ch ymennydd, mae dŵr oer yn rhyddhau endorffinau ac yn ysgogi eich system i fod yn fwy effro.
6. Mae’n fodd naturiol o ryddhau straen
Pan fyddant yn rhoi eu cyrff o dan ddŵr oer dro ar ôl tro, dros amser mae nofwyr dŵr oer rheolaidd yn mynd yn dawelach ac yn fwy hamddenol wrth i'w cyrff ddod i arfer â sioc dŵr oer.
7. Mae'n gwella cylchrediad y gwaed
Mae eich pibellau lymffatig yn culhau mewn dŵr oer, gan bwmpio eich hylif lymffatig drwy eich corff a’i buro i bob pwrpas, gan helpu i gael gwared â gwastraff a gwenwynau.
8. Mae'n eich helpu i gysgu
Mae dŵr oer yn ysgogi eich system nerfol parasympathetig, yn arbennig, eich nerf grwydrol. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o hapusrwydd a boddhad i chi.
Os ydych wedi treulio'ch gaeaf ar dir, ac yn meddwl ei bod yn bryd rhoi cynnig ar nofio dŵr oer, yna beth am gyflwyno'ch hun yn araf gyda gweithgaredd dŵr oer i ddechrau? Mae ein sesiynau nofio dŵr oer rheolaidd yn dechrau yn y Gwanwyn, felly os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i fod y cyntaf i wybod pryd bydd modd cadw lle ar y sesiynau eleni.